Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Meeting Room 4B

Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Ebrill 2025

Amser: 09.00 - 09.30
 


Hybrid / Private

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Paul Davies AS

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm.

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

·         Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru: Dadl ar y bylchau a ganfuwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod y pandemig COVID-19 y dylid eu harchwilio ymhellach (60 0 munud)  Wedi’i ohirio 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm.

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 29 Ebrill 2025

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Addysg Ryngwladol (45 munud)

 

Dydd Mawrth 6 Mai 2025  

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Diwrnod VE (45 munud)

·         Cynnig i amrywio'r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau (Cymru) (5 munud)

 

Mynegodd Heledd Fychan siom nad oedd y Llywodraeth wedi cyflwyno Datganiad Llafar ar effaith Datganiad Gwanwyn Llywodraeth y DU ar Gymru a gofynnodd i'r Llywodraeth ailystyried.

 

Nododd y Trefnydd fod Datganiad Ysgrifenedig wedi'i gyhoeddi a bod Cwestiynau fory i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg. Cadarnhaodd y Trefnydd na fyddai Datganiad Llafar yn cael ei wneud.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd i drefnu’r eitemau a ganlyn ar Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 30 Ebrill 2025 -

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad:  Ugeinfed adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)

 

Dydd Mercher 14 Mai 2025 -

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-06-1482 Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol) (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer: Heledd Fychan (Canol De Cymru) (30 munud)

 

 

</AI6>

<AI7>

4       Deddfwriaeth

</AI7>

<AI8>

4.1   Amserlen ar gyfer y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru).

 

</AI8>

<AI9>

4.2   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru)

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y cais ac y bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gosod ei adroddiad ar y Bil ar 9 Ebrill.

 

</AI9>

<AI10>

4.3   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:

 

 

</AI10>

<AI11>

4.4   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo.

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

</AI11>

<AI12>

4.5   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynglŷn â'r Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ar y Bil Llesiant Plant ac Ysgolion

Nododd y Pwyllgor y llythyr a bod Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 24 Mawrth 2025.

 

</AI12>

<AI13>

5       Pwyllgorau

</AI13>

<AI14>

5.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am slot ar gyfer dadl

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar P-06-1476: Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol

 

Datganodd Heledd Fychan fuddiant gan ei bod wedi darparu tystiolaeth i'r Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb.

 

</AI14>

<AI15>

5.2   Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru

Yn dilyn ymddiswyddiad Tom Giffard fel Cyd-gadeirydd a Sam Rowlands fel Aelod o Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru, gwahoddodd y Pwyllgor Busnes grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i enwebu Cyd-gadeirydd newydd o fewn ei aelodaeth, yn unol â Rheol Sefydlog 35.7. Cadarnhaodd Paul Davies na fyddai'r grŵp Ceidwadol yn cyflwyno enwebai ar gyfer swydd wag Gyd-gadeirydd.

 

Myfyriodd y Llywydd ar bwysigrwydd sicrhau bod y Senedd yn gallu ymgysylltu ag Ymchwiliad Covid y DU a faint o ymdrech ac adnoddau sydd wedi'u gwneud i gefnogi'r Pwyllgor hyd yma.

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes statws presennol y Pwyllgor yng ngoleuni absenoldeb Cyd-gadeirydd a'r bwlch arall yn ei aelodaeth, ac opsiynau ar gyfer sicrhau bod y Senedd yn ystyried penderfyniadau a wnaed yn ystod pandemig Covid-19 / adroddiadau modiwl yr Ymchwiliad yn cael eu cynnal. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod gyda'u grwpiau ac i roi adborth i'r Llywydd cyn gynted â phosibl.

 

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>